Mae’r Heddlu’n galw am wybodaeth ar ôl i dri dyn fygwth gŵr a gwraig wrth ddwyn arian o dŷ ym Mhentraeth, Sir Fôn, neithiwr.

Yn ôl yr heddlu roedd y tri wedi mynd i mewn i’r tŷ tua 9pm neithiwr. Cafodd y gŵr a’r wraigeu clymu a’u bygwth â sgriwdreifer.

Cipiodd y dynion swm sylweddol o arian yn ogystal â gemwaith cyn dianc yng nghar perchennog y tŷ.

Daethpwyd o hyd i’r Nissan Quashkai arian yn ddiweddarach ger bwyty Indiaidd Sopna, Four Crosses, Porthaethwy.

“Ni wnaeth y cwpl ddioddef anafiadau – ond roedd y profiad yn un ysgytwol,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Ychwanegodd mai “prin” oedd troseddau o’r fath.

“Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad – neu unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y car – i gysylltu gyda ni ar unwaith.”

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101, 0845 6071001. Neu mae’n bosibl ffonio Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.