Carchar Caerdydd
Fe ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, yn ôl y cyngor cyfreithiol a gafodd y Llywodraeth heddiw.

Fel arall, meddai rhai o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain wrth bwyllgor seneddol, fe fydd cyfreithiau Ewropeaidd yn ogystal â hawliau dynol yn cael eu torri.

Ac mae bargyfreithiwr wedi rhybuddio y gallai carcharorion ddod ag achosion llys am iawndal os na fydd y drefn yn newid.

Y ddadl

Er bod y Llywodraeth yn San Steffan wedi cael eu gorfodi i ystyried caniatáu i rai carcharorion bleidleisio mewn rhai etholiadau, mae’n ymddangos y gallai eu safbwynt arwain at wrthdaro.

Yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet, mae’r Llywodraeth “wedi cynnig bod yr hawl i bleidleisio yn cael ei gyfyngu i etholiadau San Steffan a’r Senedd Ewropeaidd, gan mai dyna’r isafswm sydd ei angen yn gyfreithiol”.

Os yw’r cyngor heddiw’n gywir, gallai hynny olygu bod gan ddegau o filoedd o garcharorion achos cyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth, gyda’r posibilrwydd o daliadau iawndal enfawr.

Wrth drafod y mater o flaen y Pwyllgor Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol, dywedodd y cyfreithwyr y gallai carcharorion hyd yn oed geisio atal yr etholiadau trwy wneud cais i’r Llys Ewropeaidd yn Strasbourg.

Ond roed Cadeirydd y Pwyllgor, Eleanor Laing, yn dweud fod y mater yn ddigon i wneud i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb yn llwyr.

Pwysau i weithredu

Yr wythnos nesa’, fe fydd ASau’n pleidleisio ar gynnig i roi’r hawl garcharorion sydd dan glo am lai na blwyddyn bleidleisio yn etholiadau San Steffan.

Ond mae’r cyngor cyfreithiol newydd a ddaeth i law heddiw yn dweud bod y galw’n cynnwys etholiadau’r Cynulliad Cymreig a Senedd yr Alban hefyd, am eu bod nhw’n defnyddio’r un gofrestr etholiadol.

Ond ategodd Aidan O’Neill QC, bargyfreithiwr sy’n arbenigo yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd, y gallai cyfreithiau Ewrop a chyfreithiau hawliau dynol gael effaith pellgyrhaeddol ar etholiadau Senedd yr Alban a’r Cynulliad Cymreig.

“Mae etholiadau i lywodraethau Cymru a’r Alban wedi eu rheoli nid yn unig gan gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd ond hefyd gan gyfreithiau hawliau dynol,” meddai Aidan O’Neill QC.

“Gallai hyn agor y llifddorau i achosion ynglŷn â chyfreithlondeb etholiadau mis Mai, ac ynglŷn â’r posibilrwydd o iawndal. Er mwyn osgoi hynny, rhaid gwneud rhywbeth ar frys.”