Mae’r ddadl ar annibyniaeth i’r Alban yn cryfhau’r angen am ddatganoli pellach i Gymru, yn ôl y Blaid Werdd.

Dywed arweinydd Plaid Werdd Cymru, Pippa Bartolotti, y dylai Cymru gael refferendwm ar gynnydd sylweddol i bwerau’r Cynulliad.

“Mae’n amlwg fod ar bobl yng Nghymru bellach eisiau i’r Cynulliad fod y lefel o lywodraeth gyda’r mwyaf o reolaeth ar faterion sy’n effeithio ar Gymru, yn dilyn y bleidlais ysgubol y llynedd o blaid pwerau pellach i’r Cynulliad,” meddai.

“Os daw’r Alban yn annibynnol, fe fydd yn effeithio’n ddramatig ar Gymru ac ar ei lle yn y Deyrnas Unedig, ac mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei drafod yn ddi-oed.
“Credwn y dylai Cymru ymhen amser gael refferendwm ar ‘devo-max’, sef yr hyn sy’n debyg o gael ei gynnig fel trydydd dewis yn yr Alban, lle bydd bron yr holl rym wedi ei ddatganoli ond yn fyr o annibyniaeth lawn.”

“Gyda llywodraeth gynyddol niweidiol yn San Steffan yn targedu’r tlawd a’r bregus, mae’n hanfodol fod Cymru’n cael y pwerau i ffurfio dyfodol gwahanol a thecach.”