Mohammad Asghar
Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol Mohammad Asghar yn wynebu rhagor o feirniadaeth heddiw ar ôl iddi ddod i’r amlwg yr wythnos hon ei fod wedi cyflogi ei ferch i weithio iddo.

Roedd y Tori eisoes yn cyflogi ei wraig.

Yn ôl cyn-Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yr agwedd mwyaf syfrdanol am y mater yw’r ffaith fod Mohammad Asghar wedi cael ei dderbyn i’r Ceidwadwyr ar ôl gadael Plaid Cymru am nad oedden nhw’n gadael iddo gyflogi ei ferch.

“Petai rhywun eisiau gadael Plaid Cymru a dod atoch chi am y rheswm yna – wel fydden i ddim wedi gwrando’n hir iawn arnyn nhw,” meddai Rod Richards.

Mae e hefyd yn dweud fod nifer o aelodau’r Blaid Geidwadol yn ne ddwyrain Cymru yn ddrwgdybus iawn o gymhellion Asghar.

“Os yw e’n symud plaid er mwyn cael un sydd yn fodlon iddo fe gyflogi aelodau o’i deulu – mae’n rhaid i chi gwestiynu pa mor daer yw e dros wleidyddiaeth gwahanol bleidiau,” meddai Rod Richards.

Mae Natasha Asghar wedi ymuno â thîm ei thad fel swyddog y wasg dros dro. 

Yn ôl Plaid Cymru mae’r sefyllfa’n “adlewyrchu’n wael iawn ar y Blaid Geidwaol”.

“Roedd yn anochel y byddai Mr Asghar cyflogi ei ferch ar ryw adeg,” meddai llefarydd y Blaid.

“Gadawodd Plaid Cymru gan fod ein Aelodau Cynulliad wedi penderfynu peidio â chyflogi rhagor o aelodau’r teulu ar y pryd, a dywedwyd wrtho na ddylai roi swydd i’w ferch felly.

“Roedd panel annibynnol wedi dod i’r casgliad na ddylai Aelodau Cynulliad gyflogi aelodau newydd o’u teuluoedd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig heddiw fod Mohammad Asghar wedi “recriwtio help ei ferch dros dro, er mwyn ateb ei ddyletswyddau dros dro fel Aelod Cynulliad.

“Mae e wedi dilyn canllawiau llym y Cynulliad – sydd yn sicrhau bod yn agored ac yn dryloyw – ar bob achlysur, a bod y swydd sydd yn cael ei gwneud dros dro yn cael ei hysbysebu yn agored.”

Ond ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth Golwg360 nad oedd e’n gwybod eto pryd byddai’r swydd llawn amser honno yn cael ei hysbysebu, ond fod hon yn swydd “bendant dros-dro”.

Mae dymuniad Asghar i ddefnyddio arian y trethdalwyr i gyflogi aelodau teuluol wedi achosi cryn stŵr yn y gorffennol.

Yn ôl yn 2009 fe adawodd Mohammad Asghar Blaid Cymru ar ôl i’r Blaid ddweud wrtho nad oedd hi’n bosib iddo gyflogi ei ferch fel swyddog y wasg, oherwydd polisi mewnol y Blaid ar y pryd.

Roedd y polisi yn dilyn argymhelliad gan banel annibynnol oedd yn dweud na ddylai Aelodau Cynulliad benodi aelodau o’u teuluoedd eu hunain i weithio iddyn nhw.

Mae’r Cynulliad bellach wedi derbyn y byddai gwahardd Aelodau Cynulliad rhag penodi aelodau o’u teuluoedd i weithio iddyn nhw yn erbyn y gyfraith, ond wedi pwysleisio y dylai pob ymgeisydd fynd trwy broses benodi cwbwl dryloyw ac agored. 

Trafferthion teuluol…

Nid dyma’r tro cyntaf i Mohammad Asghar, gŵr 66 oed gafodd ei eni ym Mhacistan, dynnu pobol i’w ben dros faterion teuluol.

Yn ôl ym mis Rhagfyr bu’n rhaid iddo ymddiheuro ar ôl iddo anfon negeseuon i aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn iddyn nhw gefnogi ei wraig i sefyll am sedd cynghorydd Ceidwadol arall a fu farw llai na 48 awr ynghynt.

Yn yr e-bost at aelodau dywedodd ei fod yn “drist iawn” i glywed am farwolaeth y cynghorydd ond fod “pethau eisoes yn symud yn eu blaen” – cyn ychwanegu y byddai’n “ddiolchgar iawn petae chi’n gallu ystyried Firdaus Asghar [ei wraig] i sefyll yn yr etholiadau”.

Yn dilyn hyn fe ddywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig na fyddai Firdaus Asghar yn sefyll am y sedd, a bod Mohammad Asghar yn ymddiheuro am “unrhyw dramgwydd” oherwydd yr e-bost.