Jonathan Edwards
Cafodd gwerth bron i £1,000 o geisiadau am dreuliau gan Aelodau Seneddol eu gwrthod yn ystod mis Awst a Medi 2011, yn ôl ffigyrau Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, gan gynnwys cais gan un AS o Gymru.

Cafodd bron i 27,000 o geisiadau, gwerth £3.5 miliwn, eu caniatau gan yr Awdurdod yn ystod y ddeufis y llynedd, ond cafodd 52 o geisiadau gan 41 o Aelodau Seneddol – gan gynnwys un gan AS Plaid Cymru Jonathan Edwards – eu gwrthod.

Mae’r ffigyrau ynglŷn â threuliau ASau yn ystod mis Awst a Medi 2011 newydd gael eu cyhoeddi gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, sef y corff sy’n penderfynu a ddylid cymeradwyo’r ceisiadau.

Roedd y 52 cais a gafodd eu gwrthod, gwerth cyfanswm o £941.22, wedi cael eu gwrthod ar y sail nad oedden nhw’n cyrraedd gofynion yr Awdurdod ar gyfer cael eu had-dalu o arian y trethdalwr.

Daeth y cais mwyaf a gafodd ei wrthod gan yr AS Ceidwadol Jessica Lee, am fil trydan gwerth £166.26 ar gyfer ei swyddfa etholaeth. Dywedodd yr Awdurdod nad oedd wedi cyflwyno tystiolaeth digonol i gefnogi’r cais.

Cafodd cais AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, hefyd ei wrthod am geisio hawlio’i dreth cyngor, gwerth £73.81, ddwywaith.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw dywedodd Jonathan Edwards AS mai cymhlethdod y system oedd yn gyfrifol am y camgymeriad.

“Fel y mae nifer o Aelodau Seneddol wedi darganfod, mae’r system sydd wedi ei dyfeisio gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) yn ofnadwy o gymhleth a biwrocrataidd,” meddai.

“Mae hyn yn gwneud hi’n fwy tebygol i gamgymeriadau gweinyddol dilys gan eu gwneud”.

Roedd y cyfanswm a hawliwyd yn ystod misoedd Awst a Medi i lawr yn sylweddol ar y deufis cynt – misoedd Mehefin a Gorffennaf 2011 – pan gafodd £5.1 miliwn ei dalu  ar gyfer 34,000 o geisiadau.

Ond mae misoedd Awst a Medi yn gyfnod sydd yn dueddol o fod yn dawel yn San Steffan, gan mai ychydig iawn o amser mae ASau yn ei dreulio yn San Steffan yn ystod toriad yr haf – er ei bod hi’n bosib fod y treuliau yn perthyn i gyfnod cynharach.