Diwrnod wedi angladd cyn-filwr o Sir Benfro a laddodd ei hun ar Ddydd Calan, mae Aelod Cynulliad wedi galw am fwy o gefnogaeth i’r rheiny sy’n dychwelyd adref o ryfel.

Cafodd Dan Collins, 29 oed, ei ddarganfod yn farw mewn chwarel ar Ddydd Calan eleni, ar ôl cyfnod o ddioddef anhwylderau straen ôl-drawmatig ar ôl bod yn gwasanaethu yn Afghanistan.

Heddiw, mae Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi galw am fwy gefnogaeth i gyn-filwyr sy’n dioddef o’r cyflwr.

“Mae marwolaeth anhymig a thrasig Dan Collins wedi’n hatgoffa ni o effaith ddinistriol yr anhwylder ar nifer o gyn-filwyr, a’u teuluoedd, yng Nghymru,” meddai Darren Millar, sydd wedi codi’r mater gyda Gweinidogion y Senedd yr wythnos hon.

“Er gwaethaf yr adroddiad gan Bwyllgor y Cynulliad yn gynnar yn 2011, mae gwasanaethau ar gyfer delio â’r cyflwr yn parhau’n anodd i gael gafael arnyn nhw, ac mae ymwybyddiaeth meddygon teulu o’r cyflwr yn dal yn annigonol,” meddai.

“Does dim digon o gydweithio rhwng Llywodraethau Cymru â’r DU i sicrhau bod digon o ddarpariaeth yn y gwasanaeth ar draws Cymru – dyw hi ddim yn ddigon da ar hyn o bryd.”

Ddoe, daeth bron i 300 o bobol ynghyd yn Eglwys Santes Fair, Aberteifi ar gyfer angladd yr is-sarjant Dan Collins, o Tiers Cross ger Hwlffordd.

Cafodd casgliad ei gynnal yn dilyn y gwasanaeth angladdol i godi arian ar gyfer elusen sy’n darparu triniaeth i filwyr sy’n dioddef anhwylderau straen ôl-drawmatig.