Guto Bebb
Mae Aleod Seneddol Cymreig yn un o 10 o ASau sy’n pwyso ar David Cameron i fynd i’r afael â “phroblem” Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Mae hi wedi dod i’r amlwg heddiw fod Prydain yn colli 3 o bob 4 achos sy’n mynd o flaen Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, yn credu mai bai’r Llys yw hynny, nid Prydain.

Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan grŵp o ASau meinciau cefn y Ceidwadwyr, wedi datgelu fod 270 o gyfanswm o 350 o achosion o Brydain, wedi “torri un o hawliau’r Confensiwn Hawliau Dynol” ers iddyn nhw ymuno â’r confensiwn yn 1966.

Ond yn ôl Guto Bebb, sydd yn un o’r 10 sydd wedi galw am weithredu gan y Prif Weinidog yn sgil yr ystadegau hyn, mae’r ffigyrau’n dystioleth bod “penderfyniad y barnwyr anetholedig yn gweithio yn erbyn seneddau ar draws Ewrop.”

Mae “diffyg atebolrwydd barnwyr y Llys yn allweddol fan hyn,” meddai Guto Bebb wrth Golwg 360 heddiw.

“Y cwestiwn ydy pwy ddylai fod yn gwneud y penderfyniadau hyn,” meddai Guto Bebb, wrth gwestiynu a ddylai llys o Ewrop gael y gair olaf ar ddeddfau a phenderfyniadau y mae gwledydd, fel Prydain, wedi eu derbyn.

“Maen nhw’n gwrthod deddfau y mae gwlad wedi eu creu,” meddai.

Y feirniadaeth heddiw yw’r diweddaraf mewn cyfres o gwynion sy’n ymwneud â gallu Llys Hawliau Dynol Ewrop i benderfynu ar gyfreithlondeb deddfau’r 47 gwlad sydd wedi arwyddo’r Confensiwn Hawliau Dynol Ewropeaidd.

Mae’r Llys wedi dod dan y lach yn ddiweddar iawn ym Mhrydain, ar ôl iddyn nhw ddweud fod atal hawl carcharorion i bleidleisio mewn etholiadau yn groes i’w hawliau dynol. Mae’r Llys hefyd wedi eu cyhuddo o orfodi Prydain i adael i derfysgwyr aros yn y wlad.

Yn ôl Guto Bebb, mae penderfyniadau fel hyn yn dystiolaeth o’r Llys yn “ymylu ar anwybyddu hawliau’r mwyafrif er lles y lleiafrif.”

Hawliau dynol – ‘nid hawliau absoliwt’

Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan yr ymchwilydd cyfreithiol, Robert Broadhurst, o’r enw ‘Hawliau Dynol: Gwneud iddyn nhw weithio dros bobol y DU’, yn dweud bod hawliau dynol i’w “gwarchod” ond nad oedd y mwyafrif yn hawliau “absoliwt”.

Yr un oedd neges Guto Bebb wrth siarad â Golwg 360 heddiw, gan ddweud y dylid mynd ati i wireddu’r Mesur Hawliau Prydeinig nawr, yn hytrach na chlymu Prydain i un confensiwn hawliau dynol ar gyfer Ewrop gyfan.

“Dwi yn cwestiynu’r angen o gael safonau sy’n gorfod bod yn unedig ar draws Ewrop,” meddai.

Mae’r Ceidwadwyr, yn draddodiadol, wedi bod yn erbyn unrhyw berthynas rhy agos gydag Ewrop, ond mae Guto Bebb yn mynnu fod y mater hwn yn codi cwestiynau mwy ’na gwrthwynebiad i berthynas glos ag Ewrop.

“Ydi o’n wrth-Ewropeaidd i ddatgan bod angen system sy’n cymryd i ystyriaeth y gwahaniaethau mewn gwledydd ar draws Ewrop?” meddai.

“Ar hyn o bryd mae’r Llys yn ymyrryd mewn ffordd sy’n groes i beth sy’n rhesymol – yn groes i ddisgwyliadau pobol a Llywodraeth Prydain.”

Mae Guto Bebb, ynghyd â’r naw Aelod Seneddol arall, nawr yn galw ar y Prif Weinidog David Cameron i fynd i’r afael â “diffyg atebolrwydd” Llys Hawliau Dynol Ewrop, a datgan ei gynlluniau ar gyfer y Mesur Hawliau Dynol Prydeinig.

“Beth ydan ni eiso’i wybod yw sefyllfa’r Mesur Hawliau Prydeinig – a welwn ni hwnnw yn cael ei ddatblygu, fel oedd yn maniffesto’r Ceidwadwyr?”

Bydd David Cameron yn gwneud araith yn Strasbwrg dros y penwythnos, fel rhan o Gadeiryddiaeth Prydain o Gyngor Ewrop. Yno, mae disgwyl i’r Prif Weinidog alw am newidiadau fydd yn atal y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd rhag delio ag achosion os ydyn nhw eisioes wedi cael eu trafod yn “gywir” gan y llysoedd cenedlaethol.