Simon Thomas AC
Mae  Aelod Cynulliad, sy’n gobeithio bod yn arweinydd nesaf ar Blaid Cymru, yn dweud ei bod hi’n anochel y bydd y Deyrnas Unedig yn rhanedig dros y ganrif nesaf.

Mae Simon Thomas ymhlith pedwar ymgeisydd sy’n ceisio cael ei ethol i gymryd yr awennau oddi wrth Ieuan Wyn Jones.

Mae Simon Thomas yn dweud bod llawer o waith i’w wneud er mwyn sicrhau’r un lefel o gefnogaeth i Blaid Cymru ag sydd i’r SNP yn yr Alban – a sicrhau llywodraeth eu hunain ym Mae Caerdydd.

‘Cymru annibynnol’

Ond mae’r cyn-Aelod Seneddol dros Geredigion yn credu bod y blaid wedi llwyddo i “dorri’r garw” gyda nifer o bleidleiswyr – a hyd yn oed rhai di-Gymraeg – ac yn y lle gorau i sicrhau Cymru annibynnol.

“Mae pawb yng Nghymru yn dueddol o edrych ar yr SNP a meddwl “ma’ nhw’n neud yn wych,” ond fu’n rhaid i’r SNP ennill dau etholiad cyffredinol yn yr Alban yn gyntaf – a dydyn ni ddim wedi ennill un etholiad yng Nghymru eto.

“Mae’n rhaid i ni fod o ddifri am annibyniaeth ac o ddifri am symud Cymru ymlaen, mae’n rhaid i ni osod ein targedau ar ennill grym ac ennill etholiadau yng Nghymru.

“Byddai annibyniaeth i fi yn golygu gweld y DU fel y’n ni’n ei nabod hi heddiw yn cael ei rhannu. Falle bod hyn yn swnio fel y peth mwya’ hurt i chi glywed erioed, ond dim ond 90 oed yw’r DU, fel ag y mae heddi. Mae pobol yn dueddol o feddwl bod gyda nhw rhyw deyrnas hynafol yma, ond mae’r DU ond wedi bod fel hyn ers llai na chanrif.

“Dydw i ddim yn meddwl y bydd hi’n para canrif arall, ac fe fydd yna newidiadau mawr yn y DU. Yr Alban, wrth gwrs, yw’r rheswm mwyaf amlwg am hynny, ond mae gan Ogledd Iwerddon ddyfodol difyr o’i blaen, fel sydd gan Gymru.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n bodoli er mwyn breuddwydio am Gymru annibynnol, ry’n ni’n bodoli er mwyn creu Cymru annibynnol,” meddai.

‘Uniaethu’

Ond mae sicrhau Cymru annibynnol yn dibynnu ar ddenu mwy o boblogaeth Cymru i gyd-weld â’r amcan sylfaenol honno sydd gan Blaid Cymru – sy’n mynd i fod yn dasg i’r arweinydd newydd, wrth ceisio denu mwy o Gymry di-Gymraeg i ddewis Plaid Cymru wrth fwrw’u pleidlais.

“Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n bwysig os yw’r arweinydd newydd yn siarad Cymraeg a’i peidio,” meddai’r ymgeisydd 48 oed.

“Yr hyn sydd fwyaf pwysig i p’un ai ydi’r arweinydd yn siarad iaith y mae pobol yn gallu uniaethau ag ef, yn gallu ei ddeall, a iaith sy’n apelio’n benodol i’w pryderon dyddiol.”

Ond mae tri arall sy’n herio Simon Thomas am arweinyddiaeth Plaid Cymru, sef Elin Jones, Leanne Wood, a Dafydd Elis-Thomas.

Fe fydd enwebiadau yn cau ar 26 Ionawr, gyda chyfres o hystings yn cael eu cynnal ar draws Cymru fis nesaf.

Mae disgwyl i’r arweinydd nesaf gael ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth.