Stadiwm y Mileniwm
Mae cynlluniau dadleuol i wahardd marchnata answyddodol yn ystod cystadlaethau pêl-droed Olympaidd eleni wedi cael sel bendith y Cynulliad.

Fe fydd  gwaharddiad o 500m o amgylch Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd am bron i bythefnos er mwyn atal hysbysebwyr answyddogol.

Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu beirniadu’n hallt gan rai Aelodau Cynulliad sy’n dweud y bydd yn mygu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae Caerdydd yn rhwym i reolau Olympaidd, gan ddweud bod yn rhaid gwarchod y noddwyr yn ogystal â’r rhai sy’n dod i wylio’r gemau.

Y bwriad yw rhwystro marchnata gan gwmnïau corfforaethol answyddogol yn ystod cystadlaethau pêl-droed Gemau Llundain 2012 yng Nghaerdydd.

Fe fydd rheolau tebyg mewn lle ar draws yr ardaloedd sy’n cynnal cystadlaethau Olympaidd.

Ond dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas bod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i hybu busnesau.

Dywedodd ei bod yn “drueni mawr” bod Llywodraeth Cymru yn gwarchod buddiannau corfforaethol  Coca Cola a McDonald’s ond yn gwneud dim i geisio hybu cyfleoedd i fusnesau Cymru wrth farchnata digwyddiadau Olympaidd yng Nghymru.

Roedd AC y Ceidwadwyr Mohammed Ashgar o blaid y gwaharddiad gan ddweud y byddai’n diogelu’r rhai sy’n dod i wylio’r cystadlaethau.

Cafodd y cynlluniau gefnogaeth 40 o Aelodau Cynulliad, tra bod 11 yn erbyn a phump wedi atal eu pleidlais.