Hywel Williams
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw am ddiogelu statws etholaeth Seneddol Môn fel ynys heddiw.

Yn ôl Hywel Williams AS, dylid gwrthod cynnig y Comisiwn Ffiniau i uno’r etholaeth gyda’r tir mawr, a chreu etholaeth newydd Menai ac Ynys Môn.

Daw’r cynnig fel rhan o gynllun San Steffan i dorri nifer yr Aelodau Seneddol o 650, i 600, er mwy lleihau anghysondebau yn nifer y bobol sy’n cael eu cynrychioli ym mhob etholaeth. Mae hyn yn golygu torri nifer etholaethau Seneddol Cymru o 40 i 30.

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Arfon, etholaeth a fyddai’n cael ei amsugno i etholaethau newydd ‘Menai ac Ynys Môn’ a ‘Gwynedd’ dan y drefn newydd, fod angen diogelu “achos arbennig” etholaeth Môn gan ei bod yn ynys, a chadw at y cynsail sydd eisoes wedi ei osod wrth ddelio ag ynysoedd eraill Prydain.

“Yn wahanol i unrhyw ynys arall o amgylch yr arfordir, megis Ynysoedd Gorllewin yr Alban ac Ynysoedd Orkney a Shetland, mae Llywodraeth y DU yn gwrthod ystyried Ynys Môn fel achos arbennig,” meddai Hywel Williams.

“Golyga hyn, dan y rheol poblogaeth – rheol sy’n anwybyddu hanes, ffiniau cymunedau ac eglurder – fod cysylltu Môn gyda’r tir mawr yn anochel, ac o ystyried cyfeiriad teithio, roedd yn anochel y byddant yn cysylltu Ynys Môn gyda Bangor a’r cyffiniau.

Ofni creu ‘mega-etholaethau’

Mae’r Aelod Seneddol yn rhybuddio mai canlyniad torri nifer yr etholaethau yn ôl y cynigion presennol fyddai creu “mega-etholaethau” mewn rhai ardaloedd o Gymru.

“Byddai’r rheolau newydd yn creu mega-etholaethau yng nghanolbarth a gogledd Cymru, gan ei gwneud yn anoddach i etholwyr gysylltu â’i ASau am fod cymorthfeydd yn bellach i ffwrdd a’r etholaethau’n gannoedd o filltiroedd o hyd a lled,” meddai Hywel Williams.

Mae disgwyl i ddau o etholaethau newydd Cymru – Gwynedd a De Powys – fod yn ymestyn dros 1,500 milltir sgwâr.

Mae’r cynnig ar gyfer De Powys yn edrych ar ymestyn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed i greu etholaeth sy’n ymestyn o’r Bannau Brycheiniog bron mor bell â’r Trallwng, gyda 78,136 o etholwyr, yn hytrach na’r 53,633 o etholwyr yn yr etholaeth bresennol.

Mae’r cynnig ar gyfer etholaeth newydd Gwynedd yn ystyried llyncu rhannau o etholaethau presennol Arfon, Aberconwy, Gorllewin Clwyd a Sir Drefaldwyn, a’u hychwanegu at etholaeth bresennol Dwyfor Meirionydd, gan greu un etholaeth â 73,297 o etholwyr.

Un arall o’r etholaethau mawr fydd Gogledd Powys a Glyndŵr, fydd yn ymestyn o’r Trallwng, ar hyd y ffin hyd at gyffiniau etholaeth Wrecsam, a draw i Ddinbych, gan lyncu etholaethau Sir Drefaldwyn, Gorllewin Clwyd, a De Clwyd yn bennaf – gan greu un etholaeth â 74,554 o etholwyr.

Arwain y ffordd i newid yn y Cynulliad?

Mae’r cynigion, sy’n effeithio yn benodol ar etholaethau San Steffan ar hyn o bryd, yn gofyn cwestiynau anochel am drefn etholaethau’r Cynulliad, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.

“Mae 40 o Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol ar yr un etholaethau â San Steffan ar hyn o bryd. Ond, y ddadl ydy beth ydych chi yn gwneud efo hynny os yw pethau’n newid?” meddai wrth Golwg 360.

Yn ôl  Gareth Hughes mae yna dri opsiwn sy’n codi wrth ymateb i’r cwestiwn, er bod y tri ymhell o gael eu trafod ar hyn o bryd.

“Ddylech chi gael trefn lle mae 30 yn cael eu hethol i’r Cynulliad mewn etholaethau tebyg i rai San Steffan, a 30 yn cael eu hethol ar y rhestr? Neu ydych chi’n gadael y peth fel ag y mae o, a bod yna ffiniau gwahanol i San Steffan ac i’r Cynulliad? Neu ydych chi’n newid y drefn yn gyfan gwbl?”

Mae disgwyl i’r cynigion terfynol ynglŷn â newid ffiniau etholaethau San Steffan yng Nghymru gael eu cyflwyno erbyn Hydref 2013.

Etholaethau San Steffan – Y Cynigion:


San Steffan: Y Cynigion - ar sail Map Arolwg Ordnans (c) Crown copyright Media 001/12

1. Menai ac Ynys Môn 2. Gwynedd 3. Ceredigion a Gogledd Penfro 4. De a Gorllewin Penfro 5. Caerfyrddin 6. Llanelli 7. Gwyr a Gorllewin Abertawe 8. Dwyrain Abertawe 9. Castell Nedd 10. Aberafon ac Ogwr 11. Pen-y-bont ar Ogwr 12. Bro Morgannwg 13. Gorllewin Caerdydd 14. Canol Caerdydd a Phenarth 15. Dwyrain Caerdydd 16. Caerffili a Gogledd Caerdydd 17. Gorllewin Casnewydd a Sirhowy 18. Canol Casnewydd 19. Sir Fynwy 20. Torfaen 21. Blaenau Gwent 22. Blaenau’r Cymoedd 23. Rhondda 24. Pontypridd 25. De Powys 26. Glyndwr a Gogledd Powys 27. Wrecsam Maelor 28. Alun a Glannau Dyfrdwy 29. Aber Dyfrdwy 30. Arfordir Gogledd Cymru