Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru wedi datgan gwrthwynebiad i’r “dasg ddiddiolch” a osodwyd ar Gomisiwn Ffiniau i Gymru.

Mae’r Gymdeithas nawr yn galw ar y Llywodraeth i “ail-asesu ei pholisi o adael gwahaniaeth o ddim ond 5% ym maint gwahanol etholaethau”.

Maen nhw’n disgrifio’r fformiwla fel un “hynod dynn sy’n golygu fod nifer o seddi San Steffan yn croesi ar draws neu’n torri drwy gymunedau i ffafrio etholaethau mawr artiffisial fel Gogledd Powys a Phen y Cymoedd”.

Daw sylwadau’r Gymdeithas wrth iddyn nhw ymateb i gyhoeddi ffiniau seneddol newydd Cymru.

Fe fydd newidiadau mawr i sedd sawl Aelod Seneddol  dan gynlluniau i dorri etholaethau Seneddol Cymru o 40 i 30. Mae’r cynigion yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn Ffiniau Cymru heddiw, gyda’r nod o gael etholaethau sydd i gyd rhwng 72,810 ac 80,473 o etholwyr. Fe fydd pob sedd yng Nghymru’n cael ei heffeithio i ryw raddau ac mae gwleidyddion a mudiadau eisoes wedi beirniadu rhai o’r cynigion.

‘Cyfrifoldeb’

“Os yw ffiniau gwleidyddol newydd Cymru i weld yn mynd yn erbyn synnwyr cyffredin mae’r cyfrifoldeb ar Lywodraeth San Steffan,” meddai Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru.

“Cafodd y Comisiwn Ffiniau i Gymru dasg ddiddiolch i’w gyflawni. Doedd agwedd ‘un maint i bawb’ y Llywodraeth byth am weithio i Gymru. Dewisodd Llywodraeth San Steffan anwybyddu bodolaeth ein mynyddoedd a chymoedd i ffitio fformiwla fiwrocrataidd. Mae’n weledigaeth o gydraddoldeb ble mae màthemateg yn hollbwysig, ond nid ein cymunedau.”

Fe ddywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes y byddai’r newidiadau arfaethedig yn creu nifer o seddi ymylol ac mai Cymru fyddai ar ei cholled fwyaf oherwydd byddai ganddi 10 yn llai o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Dyma’r gostyngiad mwyaf o holl wledydd Prydain,” meddai.

‘Lleihau dylanwad Cymru yn San Steffan’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru fod y cynlluniau yn ymwneud â “lleihau llais a dylanwad Cymru yn San Steffan.”

“Mae Llafur yng Nghymru wedi gwrthwynebu’r cynlluniau ar y seiliau hyn ac yn parhau i wneud hynny,” meddai.

Ond, dywedodd y byddai cyhoeddi’r cynlluniau hyn yn golygu bod Cymru yn gallu dechrau trafod dyfodol cynrychiolaeth ddemocratig, proses y bydd Llafur yng Nghymru yn “cymryd arweiniad cadarn” ynddi.