Mae awgrym heno y bydd etholaeth Ynys Môn a rhan o arfordir Gogledd Cymru yn uno pan fydd cynlluniau i gwtogi nifer etholaethau Seneddol Cymru yn cael eu datgelu yfory.
Fe fydd y cynigion i dorri nifer y seddi o 40 i 30 yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn Ffiniau Cymru ben bore yfory.
Mae rhywfaint o’r argymhellion eisoes wedi eu datgelu ar-lein ar wefan Twitter, gan gynnwys cadarnhad y bydd etholaeth Ynys Môn yn uno â’r tir mawr.
Yn ôl Michael Crick, gohebydd gwleidyddol Channel 4 News, “bydd Ynys Mon, fel y disgwyl, yn uno â’r tir mawr am y tro cyntaf ers 1536”.
“Mae ffynonellau yn awgrymu y bydd Llafur yn colli 5-6 sedd, y Ceidwadwyr yn colli tair sedd, Plaid Cymru un sedd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol dim i un sedd.
“Mae yna newyddion drwg i‘r AS Llafur Ann Clwyd – rydw i wedi clywed bod ei sedd yn diflannu.”
Mae papur newydd y Guardian eisoes wedi datgelu y bydd yna etholaeth Gwynedd, De Powys, ac Arfordir Gogledd Cymru. Bydd yr olaf yn cynnwys Abergele, Bae Colwyn, Conwy a Llandudno.
Bydd y cynlluniau llawn, sy’n siŵr o fod yn ddadleuol, yn cael eu cyhoeddi yn oriau mân y bore.