Jonathan Edwards
Fe fydd newidiadau mawr i sedd sawl Aelod Seneddol dan gynlluniau i dorri etholaethau Seneddol Cymru o 40 i 30.
Mae’r cynigion yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn Ffiniau Cymru heddiw, gyda’r nod o gael etholaethau sydd i gyd rhwng 72,810 ac 80,473 o etholwyr.
Fe fydd pob sedd yng Nghymru’n cael ei heffeithio i ryw raddau ac mae gwleidyddion a mudiadau eisoes wedi beirniadu rhai o’r cynigion.
Brwydrau
Un o’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan yr argymhellion yw Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones, sy’n mwynhau mwyafrif sefydlog ar hyn o bryd yng Ngorllewin Clwyd.
Petai’r argymhellion yn cael eu derbyn, gallai’r AS fod yn wynebu uniad ag etholaeth Guto Bebb AS, drws nesa’ yn Aberconwy i greu etholaeth newydd Arfordir Gogledd Cymru.
Gallai hyn olygu bod yn rhaid i David Jones frwydro yn erbyn Guto Bebb am yr enwebiad.
Newidiadau trwy wledydd Prydain
Mae’r cynigion heddiw yn rhan o becyn o newidiadau ar draws y DU i ostwng nifer yr Aelodau Seneddol i 600, gan dorri 50 oddi ar y cyfanswm o 650 sydd yno nawr, er mwyn ceisio osgoi anghysondebau.
Mae’r cynigion hefyd yn awgrymu y gallai rhan o Orllewin Clwyd fynd i greu etholaeth Glyndwr a Gogledd Powys, ond gallai AS Sir Drefaldwyn Glyn Davies hefyd fod â’i lygad ar yr etholaeth honno.
Byddai’r newidiadau’n gweld etholaeth Ynys Môn yn troi’n etholaeth Ynys Môn a Menai ac etholaeth Ceredigion yn troi unwaith eto’n Geredigion a Gogledd Penfro, tra bod etholaeth newydd Caerfyrddin yn cael ei chreu i gynnwys rhannau o ddwy etholaeth bresennol.
Plaid yn beirniadu
Wrth ymateb i’r cynlluniau dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru bod y blaid wedi gwrthwynebu gostyngiad o 25% yn nifer yr ASau o Gymru yn San Steffan.
“Er bod rhai o’r etholaethau newydd arfaethedig yn gwneud synnwyr, mae na nifer o gynigion lle mae cysylltiadau daearyddol a chymunedol wedi cael eu hanwybyddu er mwyn cyrraedd rhyw ffigwr penodol.
“Mae rhai o’r etholaethau newydd yn anymarferol ac mae maint rhai ohonyn nhw yn peri pryder. Rydyn ni felly yn credu bod angen ystyriaeth bellach i rai o’r cynlluniau. Fe fydd Plaid Cymru yn chwarae rhan adeiladol yn y broses yma yn ystod yr wythnosau nesaf.”
Yr etholaethau newydd
Y 30 etholaeth newydd, yn ôl y cynigion, fyddai:
1. Menai ac Ynys Môn
2. Gwynedd
3. Ceredigion a Gogledd Penfro
4. De a Gorllewin Penfro
5. Caerfyrddin
6. Llanelli
7. Gwyr a Gorllewin Abertawe
8. Dwyrain Abertawe
9. Castell Nedd
10. Aberafon ac Ogwr
11. Pen-y-bont ar Ogwr
12. Bro Morgannwg
13. Gorllewin Caerdydd
14. Canol Caerdydd a Phenarth
15. Dwyrain Caerdydd
16. Caerffili a Gogledd Caerdydd
17. Gorllewin Casnewydd y Sirhowy
18. Canol Casnewydd
19. Sir Fynwy
20. Torfaen
21. Blaenau Gwent
22. Blaenau’r Cymoedd
23. Rhondda
24. Pontypridd
25. De Powys
26. Glyndwr a Gogledd Powys
27. Wrecsam Maelor
28. Alun a Glannau Dyfrdwy
29. Aber Dyfrdwy
30. Arfordir Gogledd Cymru