Jonathan Edwards
Bydd y Senedd yn dechrau’r Flwyddyn Newydd gyda dadl heddiw ynglŷn â chynigion i gyflwyno cyflogau sector cyhoeddus rhanbarthol .

Dywed Jonathan Edwards AS  bod y pwnc yn “fwy ffrwydrol na phensiynau” ac wedi rhybuddio mai dyma fydd “mater diwydiannol mwyaf 2012.”

Yn ôl Llywodraeth San Steffan fe fydd yn creu economi mwy cytbwys ond mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r cyflwyniad arfaethedig.

Maen nhw’n dadlau y bydd cynlluniau o’r fath yn “creu getos cyflogaeth, yn ogystal a bod yn esgus i dorri tâl y sector cyhoeddus mewn gwledydd a rhanbarthau y tu allan i Lundain.”

‘Ffrwydrol’

“Mae tâl rhanbarthol y sector cyhoeddus yn bwnc mwy ffrwydrol na phensiynau ac mae’n debyg mai dyma fydd pwnc diwydiannol mwyaf 2012,” meddai Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru.

“Mae’r Canghellor eisiau gostwng tâl y sector cyhoeddus ledled gwledydd a rhanbarthau’r DU am ei fod yn credu ei fod yn cadw tâl y sector preifat yn isel yn yr ardaloedd hynny,” meddai cyn dweud y “dylai fod yn ceisio cefnogi diwydiannau’r sector preifat i gynyddu eu cyflogau.”

Mae’r AS yn dadlau y bydd cynlluniau o’r fath yn “arwain at ddirywiad wrth i’r gweithwyr sector cyhoeddus hynny fod â llai o arian yn eu pocedi, os oes ganddynt swydd o gwbl, a llai o arian i wario, gydag effaith amlwg ar y sector preifat lleol.”

Dywedodd bod Plaid Cymru yn “poeni am amddiffyn cyflogau pobl gyffredin.”

Bydd y ddadl 90-munud yn San Steffan yn cychwyn am 9:30yb heddiw.