Dyn Tân
Fe fu farw dynes 87 oed heddiw mewn tân yn ei chartref ym Mae Colwyn.

Fe gyrhaeddodd y gwasanaeth brys y byngalo diwedd teras ar Ffordd Hafryn, Bae Colwyn, am tua 7.45am.

Defnyddiodd y gwasanaeth gamera delweddu thermal er mwyn dod o hyd i’r ddynes oedd yn dal y tu mewn i’r tŷ.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ceisio penderfynu beth achosodd y tân.

“Bydd diffoddwyr tân yn ardal Bae Colwyn yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân ymysg y gymuned ac yn cynnig archwiliadau diogelwch ddim i’r cyhoedd,” meddai Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.