Mae darlithydd sydd newydd ei benodi i sicrhau chwarae teg i’r Gymraeg o fewn y prosiect Pontio wedi dweud wrth Golwg ei fod “eisiau bod yn rhan o’r broses o Gymreigio Pontio.”

Tra’n dal ati i ddarlithio yn Adran y Gymraeg, mae Jerry Hunter hefyd yn Gyfarwyddwr Ymchwil Diwylliant Pontio, ac mae dau gyfarwyddwr arall yn gyfrifol am ffrydiau ymchwil ym meysydd yr Amgylchfyd a Iechyd.

Ar ei benodiad roedd Jerry Hunter, fu’n un o wynebau amlwg Cymuned, yn benderfynol o sicrhau tegwch i’r iaith, meddai wrth Golwg.

“Pan ges i gynnig y swydd, y peth cynta’ ddywedes i oedd: ‘Dw i isio bod yn rhan o’r broses o Gymreigio Pontio,” meddai Jerry Hunter.

“Yn y dyddiau cynnar, yn enwedig o ran y ganolfan, roedd yna lot o broblemau o ran yr iaith, ac mae hynny wedi newid yn gyfan gwbl”.

Mae Jerry Hunter yn gweld y potensial i greu think tank newydd i’r iaith Gymraeg.

“Ond dw i’n cael pawb ynghyd, rhwydwaith anferthol o bobol, a sicrhau bod ni’n cydweithio a bod ni’n defnyddio ein gwaith academaidd ni i helpu’r iaith Gymraeg go-iawn… mae’n amserol iawn yn genedlaethol pan ti’n meddwl fod Bwrdd yr Iaith yn diflannu, yn cael ei sugno fewn i’r Llywodraeth. Mae Cymru fel gwlad angen think tank academaidd yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg.”

Darllenwch weddill y stori yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg