Lleucu Siencyn
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi rhoi £65,000 tuag at gynnal gŵyl lenyddol newydd yn y gorllewin eleni, er mwyn hyrwyddo llenyddiaeth yn yr ardal.

Bydd Gŵyl Llenyddiaeth Dinefwr yn cael ei gynnal ar dir Castell Dinefwr ddiwedd Mehefin eleni, ac yn para am dridiau.

Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Llenyddiaeth Cymru, mae’r digwyddiad yn mynd i fod yn gyfle i hybu diwylliant Cymreig yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â llenyddiaeth, ac fe fydd cerddorion, beirdd, cantorion, a sgriptwyr i gyd yn cael cyfle i berfformio yn ystod y penwythnos.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant – sef y prif bartner wrth arwain prosiect Coracle.

Bydd yr arian i gynnal yr ŵyl yn dod o gronfa Ariannu Gwyliau llenyddiaeth Cymru.

‘Dynwared y Dyn Gwyrdd’

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn gallu codi ymwybyddiaeth o lenyddiaeth Gymraeg, a denu’r un poblogrwydd ag y gwaneth gwyliau cerddorol eraill Cymru i fyd roc a phop Cymreig dros y blynyddoedd.

“Y gobaith yw i efelychu rhai o hoff wyliau Cymru dros y blynyddoedd – Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Sesiwn Fawr, y Cnapan – gan wneud i lenyddiaeth yr hyn a wnaed i gerddoriaeth gan y gwyliau hyn.”

Ond bydd yr ŵyl yn darparu arlwy ehangach na dim ond llenyddiaeth i ymwelwyr, gyda “digwyddiadau llenyddol ochr yn ochr â ffurfiau celfyddydol eraill, yng nghanol tirwedd hardd a hanesyddol Parc a Chastell Dinefwr.”

Ymhlith yr amrywiaeth hyn fydd cerddoriaeth, comedi, sinema a gweithgareddau i’r plant – a maes gwersylla i bobol fydd eisiau treulio’r penwythnos cyfan ar y safle.

Yn ôl Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, mae cynnal yr ŵyl yn rhan o “weledigaeth Llenyddiaeth Cymru” o fynd â llenyddiaeth “i bob cwr o Gymru i gynulleidfa mor eang â phosib.

“Mae’r ŵyl newydd yn caniatáu i ni wneud hynny,” meddai, gan ragweld y bydd “2012 yn flwyddyn wych i lenyddiaeth – ac i’r gorllewin.”

Bydd Gŵyl Llenyddiaeth Dinefwr yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener, 29 Mehefin, a dydd Sul, 1 Gorffennaf, 2012.