Kindle
Mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi dweud heddiw eu bod yn “edrych ymlaen” at ehangu nifer yr e lyfrau fydd ar gael ar gyfer Kindle yn ystod y misoedd nesaf.

Fe wnaeth Y Lolfa werthu “bron i 100” o e-lyfrau dros y Nadolig, meddai Garmon Gruffudd wrth Golwg360.

Roedd gan y Lolfa naw o e-lyfrau ar werth dros y Nadolig.

Mae’r cyhoeddwyr yn gobeithio “ychwanegu tua dwsin arall yn ystod y misoedd nesaf.”

“Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Ond, eto, mae’n amlwg bod e’n gweithio a phobl wedi’u prynu nhw.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd yn ehangu ac yn tyfu yn enwedig pan mae mwy o ddewis” meddai.

Roedd na bryder yn yr haf na fyddai llyfrau Cymraeg yn ymddangos ar  Kindle erbyn y Nadolig, ar ôl i Amazon wrthod caniatáu cyhoeddi testunau yn yr iaith Gymraeg ar y ddyfais ddiwifr.

Ond roedd y Lolfa wedi llwyddo i gyhoeddi naw o nofelau Cymraeg ar ffurf e-lyfrau ar wefan y cwmni, ac maen nhw’n bwriadu cyhoeddi rhagor yn y dyfodol.

Mae’r llyfrau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Yr Alarch Du, Dyn Pob Un, Y Llyfrgell, Y Ferch ar y Ffordd, Tonnau Tryweryn, Yr Argraff Gyntaf, a’r Ddinas ar Ymyl y Byd.