Ysbyty Llandoche (Llun gan John Lord CCA 2.0)
Fe fydd canolfan newydd gwerth £6 miliwn yn cael ei chreu i drin cleifion strôc yn ardal Caerdydd.

Fe fydd y ganolfan yn Ysbyty Llandoche yn tynnu adnoddau at ei gilydd o dan un to, gyda 47 o welyau ac adnoddau i helpu cleifion a’u teuluoedd.

Ond fe fydd yn golygu symud adnoddau o Ysbyty’r Infirmary yng nghanol Caerdydd.

Help i addasu

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, mae’r buddsoddiad yn rhan o strategaeth genedlaethol ehangach i geisio lleihau achosion o strôc a delio â’r canlyniadau.

Fe fydd y ganolfan yn cynnig cefnogaeth gan dîm sy’n cynnwys sawl disgyblaeth feddygol ac yn cynnwys triniaeth i helpu’r ymennydd i addasu i effeithiau strôc.

Elfen arall yw gwasanaeth estyn allan i helpu cleifion ar ôl iddyn nhw adael yr ysbyty ei hun.