Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru’n cwyno nad yw’r Llywodraeth yn gallu ateb cwestiynau’n ymwneud â chyllid y BBC  a ofynnwyd ganddo yn y Senedd.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig, roedd Hywel Williams wedi holi sawl trwydded deledu sydd wedi cael ei chodi yng ngwahanol wledydd y Deyrnas Unedig, a faint o incwm a grewyd ganddynt.

Ond yr ymateb a gafodd oedd na chafodd y ffigyrau eu cofnodi na’i cyfrifo gan yr Adran dros Ddiwylliant, Y Gemau Olympaidd, Y Cyfryngau a Chwaraeon na’r BBC eu hunain.

 “Gydag S4C yn cael ei chynnwys yn y ffi drwydded, a gyda BBC Cymru yn wynebu toriadau, roeddwn yn awyddus i ganfod faint o’r ffi drwydded sy’n cael ei godi a gwario yng Nghymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gostau a buddiannau ein diwydiant cyfryngau,” meddai Hywel Williams.

 “Ond mae’n debyg nad ydi’r BBC wedi llwyddo i ddyfeisio system sy’n medru dweud wrthynt sawl trwydded sydd ym mhob gwlad na faint o arian a godir yno.

 “Mewn degawd yn y senedd dyma un o’r atebion mwyaf tila i mi eu derbyn i gwestiwn – ac yn siwr o fod yn embaras i fudiad sy’n derbyn £5bn gan y cyhoedd pob blwyddyn.

 “Mae ‘na batrwm rhyfedd yn San Steffan sy’n dangos nad oes ganddynt y gallu i ddarparu ateb pryd bynnag fo Cymru yn cael bargen wael.

 “Arian cyhoeddus yw hwn, wedi ei godi dan siarter y BBC, a dylsem ddisgwyl tryloywder llwyr ar y mater.”