Mae Heddlu De Cymru wedi cael eu canmol am ymchwiliad a arweiniodd at garcharu un o’u cyn gydweithwyr.

Yn ôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, roedd y plismyn wedi gwneud “gwaith ardderchog” gyda’r ymchwiliad a arweiniodd at garcharu Arolygydd am droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Fe gafodd y cyn blismon Geraint Evans, 47 oed o’r Barri, ei garcharu ddydd Gwener am droseddau’n ymwneud ag annog cam-drin tros y Rhyngrwyd ac, yn ôl y Comisiwn, roedd yr ymchwiliad hefyd wedi cau cylch cas o gamdrinwyr.

“Mae’r achos yma’n dangos nad yw swyddogion heddlu uwchwlaw’r gyfraitgh ac yn gallan nhw gael eu dwyn i gyfrif pan fyddan nhw’n troseddu,” meddai Comisiynydd Cymru, Tom Davies.

“Mae’r ymchwiliad hefyd yn dangos nad oes unman i guddio i bobol sy’n ymddwyn fel hyn ar y Rhyngrwyd.”