Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynnar bore heddiw.

Mi wnaeth dau berson ymosod ar ddyn 32 oed wrth iddo gerdded adref o’r dre.

Y gred ydi fod y ddau ddyn yn eu hugeiniau cynnar. Fe’u gwelwyd diwethaf yn rhedeg i gyfeiriad Newcastle Hill.

Mae’r person a ymosodwyd arno yn yr ysbyty. Mae’n edrych yn debyg fod ei ên wedi cael ei thorri.

Mae’r Heddlu apelio ar un unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â CID Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 679518 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.