Yn ei neges Nadoligaidd mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud fod 2012 yn mynd i fod yn flwyddyn “galed” i ni yma yng Nghymru.

Gyda nifer y di-waith ar gynnydd, swyddi’n y sector gyhoeddus yn mynd yn brinach a chyflogau’r rheini mewn gwaith yn lleihau, nid yw ei ragolygon ar gyfer y flwyddyn newydd yn syndod i neb.

Ond er bod ei wrthwynebwyr yn cyhuddo Carwyn Jones o fethu delio â phroblemau’r wlad, mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod ei Lywodraeth wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r economi a chreu swyddi.

Ond roedd hefyd am fanteisio ar y cyfle i edrych yn ôl ar 2011, ac yn nodi’r refferendwm fis Mawrth i roi’r hawl i’r Cynulliad basio’i ddeddfau ei hun, a pherfformiad y tîm rygbi yng Nghwpan y Byd dros yr Hydref, fel y ddau uchafbwynt amlwg.

Pwysleisiodd y byddai 2011 yn cael ei chofio oherwydd y caledi economaidd, ac mai dyma fyddai’n cael prif sylw Llywodraeth Cymru yn 2012.