Bydd Cymru yn derbyn bron i £9 miliwn yn ychwanegol oherwydd y gwariant ar y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt heddiw fod Cymru i dderbyn £8.9 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan yn sgil gwariant sydd wedi bod ar baratoi at y Gemau Olympaidd.

Daw’r arian ychwanegol yn sgil dadl am y ffaith nad oedd Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon yn mynd i dderbyn arian ychwanegol yn eu cyllideb flynyddol gan Lywodraeth y DU, er bod Lloegr yn derbyn canran sylweddol uwch yn eu cyllideb ar gyfer cynnal y Gemau Olympaidd.

Ond heddiw  fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y dylai gwledydd y DU i gyd fod wedi gweld peth cynnydd yn eu cyllideb i gyfateb â’r cynnydd yn Lloegr, ac fe fydd Cymru nawr yn derbyn £8.9 miliwn ychwanegol drwy fformiwla dyrannu cyllideb Barnett, tra bod llywodreath yr Alban yn derbyn £16 miliwn, a Gogledd Iwerddon yn derbyn £5.4 miliwn.

Bydd yr arian hyn yn cael ei ychwanegu at gyllideb gwledydd y DU ar gyfer 2011-2012.

‘Rhy ychydig rhy hwyr’

Ond “rhy ychydig yn rhy hwyr” yw’r cyfan, yn ôl llefarydd economaidd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.

“Mae Plaid Cymru wastad wedi dadlau y dylai Cymru dderbyn cyfran deg o’r biliynau o bunnoedd sy’n cael ei wario ar y Gemau Olympaidd wrth greu cyfleusterau newydd yn Llundain,” meddai.

“Mae’r consesiwn yma gan Lywodraeth y Glymblaid yn dro pedol i’w groesawu, ond mae’n bitw o’i gymharu â’r manteision i Lundain.

“Gwrthododd Llafur wrando pan oedden nhw mewn grym ar ddadleuon y Blaid, ac anwybyddu buddiannau cymunedau Cymru.

“Mae hyn yn rhy ychydig yn rhy hwyr, ac yn ddim o’i gymharu gyda’r £40 miliwn ychwanegol a roddodd David Cameron yn ddiweddar ar gyfer dyblu’r gwario ar seremoni agoriadol y Chwaraeon Olympaidd.”