Mae Heddlu’r De wedi rhyddhau lluniau CCTV o ddau ddyn maen nhw eisiau eu holi mewn cysylltiad ag ymosodiad yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Mae’r Heddlu yn ceisio adnabod y ddau ddyn yn y lluniau, ar ôl i rywun ymosod ar ddyn 24 oed o Ferthyr Tudful ar y llwybr ger Boulevard de Nantes yng nghanol Dinas Caerdydd yn oriau mân fore Sul, 20 Tachwedd.

Cafodd y dyn ei daro i’r llawr o’r tu ôl, cyn i’w iPhone a’i waled gael eu dwyn – ond ni chafodd ei anafu’n ddrwg.

Mae ditectifs nawr yn apelio ar y ddau ddyn yn y lluniau o’r camerau cylch cyfyng, neu unrhyw un sy’n eu hanabod, i gysylltu â’r heddlu yn syth.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cysylltu â’r heddlu am y digwyddiad ffonio CID Caerdydd ar 02920527420, neu Taclo’r Taclau ar 0800555111.