Mae’r Heddlu Trafnidiaeth yn ymchwilio i ymosodiad hiliol ar drên i Gaerdydd ac yn apelio ar y cyhoedd am help i adnabod dau ddyn mae nhw’n awyddus i’w holi ynglŷn â’r digwyddiad.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng o ddau ddyn mae’n nhw’n credu gall eu helpu yn eu hymchwiliad.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar wraig 35 oed o Gaerdydd oedd ar y trên 9.51pm o Aberdar i Benarth ar ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd. Roedd dau ddyn wedi dod ati ac wedi ymosod arni gan wneud sylwadau hiliol.

Roedd yr ymosodiad wedi para am 20 munud nes iddi adael y trên.

Mae un o’r dynion yn ei ugeiniau, ac yn 5’9 o daldra gyda gwallt golau. Mae’r ail ddyn hefyd yn ei ugeiniau a thua’r un taldra a gyda gwallt brown tywyll cyrliog.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi gwneud ymholiadau yn lleol i gael enwau’r ddau ddyn ond wedi methu hyd yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth bod yr ymosodiad wedi bod yn “frawychus iawn” ar wraig oedd yn teithio ar ei phen ei hun.

Mae nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 0800 40 50 40 gan roi’r cyfeirnod B9/WCA o 21/12/2011 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.