Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi galw am gyfarfod brys gyda David Cameron i drafod ei benderfyniad i ddefnyddio ei feto yn erbyn cynlluniau i geisio achub yr ewro.

Mae llythyr, sydd wedi ei arwyddo gan y ddau Brif Weinidog, wedi cael ei anfon at David Cameron yn dweud eu bod yn pryderu bod Llywodraeth San Steffan wedi defnyddio ei feto heb ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru a’r Alban.

Yn y llythyr mae nhw’n dweud bod nifer o faterion o bwys i Gymru a’r Alban yn cael eu trafod ym Mrwsel ac nad oedden nhw wedi cael digon o rybudd i geisio mynd i’r afael â rhai problemau a all godi yn sgil penderfyniadau Llywodraeth San Steffan.

Mae nhw wedi galw ar y Prif Weinidog i gynnal cyfarfod brys i ganiatáu i’r llywodraethau datganoledig, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, i drafod goblygiadau ei benderfyniad.

Mae’r llythyr yn ymateb i lythyr gafodd ei anfon at Alex Salmond ddydd Llun gan David Cameron yn dweud ei fod wedi defnyddio ei feto er mwyn gwarchod buddiannau “y Deyrnas Unedig i gyd.”

Yn y llythyr, mae David Cameron yn tynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiant gwasanaethau ariannol yn yr Alban.

“Rydw i’n deall bod y diwydiant yn cyflogi 100,000 o bobl yng Nghaeredin a Glasgow.”

Dywedodd bod yn rhaid bod sicrhau bod y sector, a’r swyddi mae’n creu ar hyd y DU, yn cael chwarae teg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Carwyn Jones ac Alex Salmond yn awyddus i ddangos i’r Prif Weinidog pa mor bryderus ydyn nhw ynglŷn â’r penderfyniad a wnaed heb ymgynghoriad gyda Chymru a’r Alban.

“Rydan ni’n benderfynol bod Cymru yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’r Undeb Ewropeaidd, ein marchnad allforio fwyaf.”