Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymchwilio i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Dywedodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad eu bod nhw eisiau clywed tystiolaeth gan y cyhoedd a grwpiau sydd â diddordeb.

Bydd yr ymatebion yn rhan o ymarferiad ymgynghori a fydd yn bwydo i mewn i broses yr ymchwiliad.

“Gan fod canlyniad y refferendwm ar 3 Mawrth 2011 wedi rhoi pwerau deddfu eang i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, mae’r cwestiwn a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân wedi dod yn fater o ddiddordeb a thrafodaeth gyhoeddus,” meddai’r Aelod Cynulliad David Melding, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Yn benodol, mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu ei fod yn bwriadu cychwyn trafodaeth  gyhoeddus ynglŷn ag a oes angen awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.


“Mae’r Pwyllgor yn credu bod y datblygiadau hyn yn rhoi cyfle da i bwyso a mesur agweddau technegol y cwestiwn hwn ac felly wedi cytuno i gynnal ymchwiliad.”

Mae’r pwyllgor wedi galw am farn y cyhoedd ar fanteision, rhwystrau a chostau posib sydd ynghlwm â chyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Yn ogystal a hynny maen nhw eisiau gwybod am oblygiadau ymarferol awdurdodaeth ar wahân i’r proffesiwn cyfreithiol a’r cyhoedd; weithredu awdurdodaethau bach eraill yn y DU, yn enwedig rhai fel Gogledd Iwerddon sy’n defnyddio’r gyfraith gyffredin; ac ystyr y term, “awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru”.