Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff ffermwr o Gymru mewn tŷ yn Swydd Caergrawnt.

Daethpwyd o hyd i gorff Llywelyn Thomas mewn tŷ ar Stryd Ely, Chittering, brynhawn ddydd Sul.

Roedd wedi ymddeol ac wedi bod yn byw yn Swydd Caergrawnt ers rhyw 10 mlynedd, meddai’r heddlu. Roedd yn dod yn wreiddiol o Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd ac wedi ffermio yn ardaloedd Margam a Chefn Cribwr.

Dangosodd archwiliad post-mortem ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w ben a’i wyneb.

Y gred yw bod ei gar, Rover estate â’r plât rhif BJ51 CJV, wedi ei ddwyn ddydd Sadwrn. Daethpwyd o hyd iddo ym mhentref Milton ddydd Llun.

Galwyd yr heddlu ar ôl i gymdogion sylweddoli fod goleuadau’r tŷ wedi bod ymlaen drwy’r nos, a’r drws blaen ar agor.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd car Llywelyn Thomas yn teithio rhwng Chittering a Milton.