Ysbyty Treforys
Mae dyn 26 oed fu mewn gwrthdrawiad â bws yn Abertawe ddydd Llun wedi marw.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Ffordd Fabian fore dydd Llun, 19 Rhagfyr.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys ond bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd nifer o deithwyr ar y bws driniaeth am sioc a bu’r ffordd ar gau am rai oriau wedi’r ddamwain.