Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 63 oed mewn tŷ yn Llanilltud Faerdref, yn Rhondda Cynon Taf neithiwr.

Cafwyd hyd i gorff y dyn yn ei gartref yn Heol St Anne’s, Llanilltud Faerdref tua 9.15pm neithiwr.

Roedd dau ddyn arall, sydd yn eu tridegau, hefyd wedi eu darganfod yn y tŷ ac fe gawson nhw eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle  mae nhw’n cael triniaeth am wenwyn carbon monocsid posib.

Mae un o’r dynion mewn cyflwr difrifol, a’r dyn arall mewn cyflwr sefydlog.

Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ac yn dweud nad yw’n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau amheus i’r digwyddiad ar hyn o bryd.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Dioglewch hefyd wedi cael eu hysbysu.