Jane Hutt
Mae’r Gweinidog Cydraddoldebau Jane Hutt wedi dweud bod yn rhaid lleihau’r rhwystrau i fyd gwaith ar gyfer pob menyw.
Yr wythnos hon fe fu Jane Hutt yn gwled sut mae menywod o bob oed ar draws Caerdydd yn cael eu helpu a’u cefnogi i oresgyn rhwystrau fel defnyddio gwasanaethau, a chyflogaeth.
Heddiw fe fydd yn ymweld â Women Connect First i weld sut mae’r prosiect ‘Grymuso Menywod Hefyd’ yn cwrdd ag anghenion menywod o grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a’u teuluoedd sy’n wynebu nifer o haenau o gamwahaniaethu yn eu bywydau bob dydd.
Dywedodd Jane Hutt: “Rwyf am weld pob menyw yn cyflawni ei photensial llawn beth bynnag fo’i chefndir.
“Roedd yr ystadegau diweithdra diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod menywod yn ei chael yn arbennig o anodd dod o hyd i waith yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, o ganlyniad i’r rhwystrau y gallent fod yn eu hwynebu, fel diffyg gofal plant neu brinder swyddi sy’n cynnig oriau hyblyg.
“Gall menywod o leiafrifoedd ethnig wynebu mwy fyth o rwystrau yn eu bywydau bob dydd. Mae’r prosiect ‘Grymuso Menywod Hefyd’ yn eu helpu i leihau ac/neu gael gwared ar y rhwystrau sy’n eu hwynebu, gan eu galluogi i fanteisio ar wasanaethau y byddent yn cael trafferth cael gafael arnyn nhw fel arall.”