Elfyn Llwyd AS
Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd yn cefnogi Her Uchel Lys i gynlluniau Llywodraeth San Steffan i haneru’r Tariffau Cyflenwi cyn i’r ymgynghoriad ar y mater ddod i ben.

Heddiw bydd Cyfeillion y Ddaear a dau gwmni ynni solar yn gwneud cais am adolygiad barnwrnol yn yr Uchel Lys. Mae nhw’n gwrthwynebu newidiadau i haneru’r taliadau mae cwmnïau trydan yn rhoi i berchnogion tai sy’n cynhyrchu ynni haul.

Yr wythnos diwethaf, cafodd Elfyn Llwyd AS gyfarfod gyda’r Gweinidog Ynni, Gregory Barker, a’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru, lle y rhybuddiodd am effeithiau y newidiadau ar y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae’r cynllun FIT wedi ei ddylunio i annog buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a lleihau costau ar gyfer cartrefi, ond roedd Elfyn Llwyd wedi mynegi ei bryder y byddai’r newidiadau i’r cynllun yn niweidio’r economi a’r amgylchedd.

Dywedodd : “Mae cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer tariffau cyflenwi yn siomedig dros ben, ac mae’r ffaith eu bod wedi eu cyflwyno cyn i’r ymgynghoriad ddod i ben yn dangos mai penderfyniad ariannol, nid amgylcheddol, yw hwn.

“Rhaid i Weinidogion sylweddoli fod ynni solar yn llunio rhan allweddol o ddyfodol cynaliadwy ac yn chwarae rôl hanfodol wrth wynebu her gynyddol newid hinsawdd.

“Mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn gyflogwr mawr yng Nghymru gyda’r potensial o dyfu’n sylweddol yn y dyfodol. Mae’r newid hwn yn peri bygythiad i nifer o swyddi.

“Mae tariffau cyflenwi yn rhoi’r cyfle i bobl arferol gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy greu ynni adnewyddadwy ac arbed arian ar gostau ynni yn eu cartrefi. Bydd y newidiadau hyn yn atal nifer rhag gwneud hynny.

“Mae’n amlwg fod Llywdoraeth y DU yn esgeuluso’i addewid i gynhyrchu 15% o holl ynni’r wlad o ffynhonellau adnewyddadwy erbyn 2020.