Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl ymosodiad ar wraig 50 oed oedd yn cerdded gyda’i chi yn Sir y Fflint.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym Mharc Treftadaeth Greenfield Valley yn Sir y Fflint tua 2pm ddydd Sadwrn, 17 Rhagfyr.
Mae’r Heddlu yn apelio am dystion a allai fod wedi gweld dyn yn yr ardal i gysylltu â nhw. Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn rhwng 15 ac 20 oed, tua 5 troedfedd 7 modfedd ac yn gwisgo top gyda hwd coch.
Ni chafodd y ddynes ei hanafu.
Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.