Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi lansio rhestr o eiriau i’w defnyddio wrth drafod y wefan gymdeithasol Twitter.

Mae’r Bwrdd wedi cynnig y termau er mwyn hyrwyddo trafodaeth Gymraeg o’r wefan, ac ar y wefan.

Yn ôl Bwrdd yr Iaith, mae eu Tîm Safoni Termau wedi llunio’r rhestr at er mwyn “cynorthwyo trafod y wefan yn y Gymraeg a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar y cyfrwng pwysig hwn”.

Mae’r rhestr yn cynnig rhai termau sydd eisoes yn hysbys i Gymry Cymraeg Twitter, gan gynnwys ‘trydar’ am tweet neu tweets (y weithred o rannu neges ar y wefan), ‘ail-drydar’ am retweet, ‘dilyn’ yn lle follow. Mae mention yn troi’n ‘mensh’ a trending yn troi’n ‘trendio’.

Ond mae rhai geiriau yn aros yr un fath, gan gynnwys Hashtag, TweetDeck, Twibbon, ac enw’r wefan – Twitter.

Ond mae’r rhestr yn bathu termau newydd hefyd, gan gynnwys ymgais i greu fersiwn Gymraeg o FollowFriday (#FF), sef GwenerGanlyn (#GG) – sy’n annog dilynwyr i ddilyn trydarwyr eraill.

Mae’r Bwrdd hefyd yn annog y Cymry ar-lein i gyfrannu eu syniadau eu hunain ar gyfer datbylgu’r iaith ar y wefan.

Mae croeso iddyn nhw gysylltu gyda’u hawgrymiadau ar: post@byig-wlb.org.uk.