Peter Black
Mae angen gweithredu ar unwaith i fonitro safon gwasanaethau plant yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ôl yr Aelod Cynulliad Peter Black.

Mae Peter Black, o’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Plant, Gwenda Thomas, i weithredu yn dilyn adroddiad damniol am safon y gwasanaethau.

Yn ôl yr adroddiad newydd gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, mae “risg sylweddol” i ddiogelwch plant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Daw’r adroddiad yn sgil arolwg o adran gwasanaethau cymdeithasol plant a phobol ifanc Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Roedd yr adroddiad yn canmol gwelliannau mewn rhai agweddau, ond fod pryderon yn parhau i “gael effaith ar allu’r awdurdod i ddarparu gwasanaeth ymateb diogel ac o safon uchel”.

Mae’r pryderon yma’n ymwneud â cholli nifer fawr o staff profiadol, nifer y staff sy’n dechrau a gadael yn rheolaidd, y ddibyniaeth ar staff gan asiantaethau, y llwyth gwaith sydd gan weithwyr cymdeithasol, cymhlethdod a nifer yr achosion, a diffyg cysondeb wrth nodi achosion.

Gofyn i’r gweinidog weithredu

Yn ôl yr Aelod Cynulliad lleol, Peter Black, mae’r adroddiad yn peri gymaint o bryder iddo ei fod wedi “cyfarfod â’r Dirprwy Weinidog a gofyn iddi gamu mewn”.

“Dwi’n bryderus iawn am yr adroddiad hwn a’r ddelweddy  mae yn ei roi i ni o’r modd y mae Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot yn cael eu rhedeg,” meddai.

“Dwi wedi delio ag achos un etholwr yn ddiweddar, oedd yn dweud fod y profiad o weithio â Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot yn codi nifer o gwestiynau am y modd mae’r adran honno’n gweithio, ei phrosesau, a’r modd y mae’n rheoli risg.”

Mae Peter Black yn dweud ei fod yn bwriadu galw am sicrwydd y bydd y sefyllfa yn cael ei “fonitro yn llawer agosach… a bod arolwg pellach yn cael ei gynnal yn y 12 mis nesaf er mwyn cadarnhau bod gwelliannau yn mynd rhagddynt”.

“Ni ddylai Llywodraeth Cymru diystyru’r posibilrwydd o ymyrryd yn uniongyrchol os na fydd pethau’n gwella,” meddai.

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Plant, sydd hefyd yn Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, bellach wedi cadarnhau y bydd yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa.

“Rydw i wedi gofyn i Brif Arolygwr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i roi gwybod i mi am y datblygiadau yn yr awdurdod wrth wella eu gwasanaethau plant,” meddai Gwenda Thomas.

“Bydd arolygiad arall o wasanaethau’r cyngor i blant yn cael ei gynnal yn ystod haf 2012.”