Edward H Dafis
Owain Schiavone sy’n ymateb i’r newyddion fod Edward H. Dafis yn bwriadu ‘ailffurfio’ er mwyn ceisio rhoi hwb i’r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Defnyddiol ydy’r cyfryngau newydd ynte.

‘Slawer dydd, pan fyddech yn siarad ar y radio neu’r teledu a ddim yn cael cyfle i ddweud eich dweud yn llawn, roedd yn anodd cael allbwn ar gyfer y pwyntiau a gafodd eu hanwybyddu. Erbyn hyn mae modd ysgrifennu blog / tweet neu debyg i orffen dweud eich pwt.

Bore ddoe, ar raglen radio fore Sul Dewi Llwyd, mae’n debyg i Cleif Harpwood gyhoeddi bod ei grŵp roc o’r 1970au, Edward H. Dafis yn mynd i ‘ailffurfio’ mewn ymdrech i helpu aildanio’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Y syniad ydy perfformio mewn nifer o gigs, i unrhyw un sy’n awyddus i’w cael nhw, gyda grwpiau cyfoes mewn neuaddau pentref a lleoliadau tebyg yn y gobaith o greu bwrlwm a diddordeb, gan ddenu pobol i gymdeithasu mewn gigs unwaith eto – ‘yr hen ffordd Gymreig’ fel petai.

Gan fod Edward H. Dafis yn grŵp hynod boblogaidd nôl yn y 1970au – efallai‘r grŵp Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed – does dim syndod fod rhai o’r cyfryngau wedi neidio ar y newyddion.

Fe gefais wahoddiad i gyfrannu i drafodaeth ar raglen Taro’r Post ar Radio Cymru heddiw i drafod potensial hyn.

Dim gwrthwynebiad

Rhaid nodi’n gyntaf nad ydw i’n gwrthwynebu’r syniad o gwbl, a dw i’n croesawu’r ffaith fod Cleif a rhai o gyn aelodau eraill Edward H. yn awyddus i geisio helpu’r sîn. Yr hyn dwi’n ofni ydy na fydd y syniad yn llwyddo i gael yr impact maent yn ei obeithio.

Dwi ddim yn or-hoff o  grwpiau’n ailffurfio – er bod nostalgia heb os yn creu diddordeb, yn aml iawn siomedig yw’r perfformiad o’i gymharu â’r atgofion rhamantus sydd gan y gynulleidfa.

Ro’n i’n falch felly o glywed Cleif yn dweud bod llawer o ganeuon newydd ar y gweill ganddyn nhw, ac yn wir mai nid dan enw ‘Edward H. Dafis’ y bydden nhw’n perfformio wedi’r cyfan. Er hynny, gan nad oes enw arall wedi ei grybwyll eto, byddai’n cyfeirio atyn nhw fel Edward H. Dafis am y tro!

Mae’n syniad diddorol, ac fe fydd yn ddiddorol ei weld yn datblygu, ond mae nifer o ffactorau sy’n rhaid eu hystyried.

Cynulleidfa

Does gen i ddim amheuaeth y bydd fersiwn newydd Edward H. yn denu cynulleidfaoedd i’w gigs. Y broblem yw mai eu cynulleidfa wreiddiol fydd y mwyafrif helaeth o’r rheiny h.y. pobol sydd bellach yn eu 40au, 50au neu hŷn – nid dyma’r bobol sy’n mynd i gynnal y sin gerddoriaeth Gymraeg cyfoes mae arnaf ofn.

Gobeithio fy mod yn anghywir, ac y bydd rhannu lineup gyda bandiau ifanc yn tynnu cymysgedd o wahanol oedran i’r gigs … ond dwi’n amheus o hynny.

Os nad ydy pobol ifanc yn mynd i weld bandiau cyfredol yn perfformio rŵan, ydyn nhw’n mynd i fynd gan fod grŵp o’r gorffennol yn mynd i’w denu nhw? Ydy pobol ifanc isho mynd i ddigwyddiadau lle mae rhan helaeth o’r gynulleidfa yn llawer hŷn na nhw? Go brin.

Lleoliadau

Pan oedd Edward H. yn eu hanterth, roedd cynnal gig mewn Neuadd Bentref yn rhywbeth digon naturiol – nid felly bellach.

Mae rhai neuaddau wedi llwyddo i gael grant loteri neu debyg i’w adnewyddu, ond ar y cyfan mae’r adeiladau yn hen ac yn anaddas ar gyfer gigs erbyn hyn mae arna’i ofn.

Rhaid cael bar hefyd i ddenu cynulleidfa, ac mae hyn yn gallu bod yn drafferthus o safbwynt trwyddedu a logistics.

Mae costau trefnu gigs yn uwch nag yr oedden nhw hefyd – mae sain a goleuo da yn gallu bod yn gostus iawn, tra bod pris petrol yn codi costau perfformwyr, heb sôn am gostau marchnata angenrheidiol.

Hyrwyddwyr

Mae hyn yn dod â mi i un o ddiffygion pennaf y sin Gymraeg ar hyn o bryd, sef diffyg hyrwyddwyr profiadol a da.

Oes, mae ‘na ambell hyrwyddwr yn gwneud gwaith da ar hyn o bryd, ond prin iawn ydy’r rhain ar y cyfan. Mae angen gwneud llawer iawn mwy na chreu digwyddiad Facebook a thrydar ambell waith i ddenu cynulleidfa i unrhyw fath o ddigwyddiad.

Dwi’n siŵr na fydd prinder o bobol yn gwirfoddoli i drefnu gigs i Edward H., ac efallai y bydd enw a heip yr ‘ailffurfio’ yn ddigon o gario’r gigs hynny. Ond beth sy’n digwydd pan fydd y gig nesaf, gig heb enw a heip Edward H.?

Profiad defnyddiol

Un peth gwerthfawr y gall aelodau Edward H. ei gynnig i’n bandiau ifanc ydy profiad wrth gwrs.

Er ei bod yn oes aur o ran pobol oedd yn mynychu gigs byw, roedd rhaid i grwpiau Cymraeg weithio’n llawer caletach i gael sylw yn ystod cyfnod Edward H. Doedd dim S4C, doedd dim C2, a doedd dim cystadlaethau fel brwydr y bandiau gyda chyfleoedd i ennill gwobrau hael.

Roedd rhaid i grwpiau greu buzz a diddordeb dros eu hunain, a dros y cyfnod nesaf bydd hi’n fwyfwy anodd i grwpiau cyfoes ffeindio allbwn ar gyfer eu cerddoriaeth.

Felly dyna rai o’r bygythiadau ac ambell elfen gadarnhaol i’r syniad yn fy marn i. Mae modd datrys rhai o’r problemau wrth gwrs, a dwi’n weddol sicr y byddai taith neu gyfres o gigs gyda fersiwn o Edward H. yn llwyddiannus ac yn denu cynulleidfaoedd.

Yr hyn dwi’n amheus ohono yw’r effaith hirdymor ar y sîn – mae angen gwaith ar lefel lawer ehangach, ond chwarae teg i Cleif a’r bois am drio.