Adam Price
Mae cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud ei fod yn rhagweld na fydd Plaid Cymru mewn grym yn y Cynulliad am naw mlynedd arall.

Mewn erthygl ar gyfer Wales Home mae’n dweud bod casineb y Blaid Lafur tuag at Blaid Cymru yn golygu nad yw clymbleidio yn bosib yn y dyfodol agos.

“Mae’n rhaid brwydro ym mhob etholiad er mwyn ennill, wrth gwrs,” meddai. “Ond y gwirionedd yw ein bod ni’n wynebu cyfnod hir yn wrthblaid.

“Mae casineb greddfol y Blaid Lafur tuag at bopeth yr ydyn ni’n ei gynrychioli yn golygu mai’r Rhyddfrydwyr fydd eu partneriaid dewisol. Ni fydd yna ‘Gymru’n Un Dau’.”

Ond ychwanegodd fod “y cyfnod allan o rym dros y naw mlynedd nesaf yn gyfle hanesyddol i herio hegemoni’r Blaid Lafur”.

Er mwyn gwneud hynny mae angen i Blaid Cymru bwysleisio’r gwahaniaeth rhyngddi hi a’r Blaid Lafur, a chanolbwyntio ar yr economi, addysg a’r amgylchedd.

Mae annibyniaeth hefyd yn bwysig, meddai.

“Mae’n rhaid cynllunio am annibyniaeth. Fe fyddai gwadu hynny fel mudiad yn weithred hunan-niweidiol,” meddai.

“Beth am annibyniaeth erbyn 2036, fel y mae Elin Jones wedi ei awgrymu? Pam ddim? Mae pum chan mlynedd o wladychiaeth yn ddigon, hyd yn oed i’r Cymry.”

Darllenwch yr erthygl yn ei gyfanrwydd fan hyn.