John Evans a Paula Owen
Mae perchennog tafarn y Black Boy, yng Nghaernarfon, wedi ymuno â’r ymgyrch i alw ar bobol i beidio ag yfed a gyrru.

Bydd ei dafarn ef ac eraill ar draws yr ardal yn defnyddio  matiau cwrw tymhorol er mwyn atgoffa’r cyhoedd am beryglon ac effeithiau yfed tra dan ddylanwad alcohol.

“Rydw i wedi cefnogi’r ymgyrchoedd yfed a gyrru yn llwyr ers blynyddoedd lawer ac rydw i’n falch o dderbyn y matiau cwrw i helpu i hyrwyddo’r ymgyrch yfed a gyrru blynyddol,” meddai John Evans, perchennog tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon.

Dywedodd Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd fod bron i un o bob chwech o farwolaethau ar y ffyrdd yn cynnwys gyrwyr sydd dros y terfyn alcohol cyfreithiol.

“Mae’r Nadolig yn amser i fwynhau lle mae pawb yn gobeithio cael amser da – ond mae’n bwysig cofio os ydych chi’n yfed, peidiwch â gyrru,” meddai Paula Owen.