Mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio ar ôl gwrthdrawiad rhwng car heddlu a gwraig oedrannus yng Ngwynedd.

Mae’r wraig mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ddiwedd y prynhawn ddoe ym Mhenrhyndeudraeth.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd y digwyddiad ar ffordd yr A487 ac roedd y car heddlu wedi ei farcio. Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Mae’r Comisiwn Cwynion wedi cael gwybod am y digwyddiad, fel sy’n arferol mewn achosion o’r fath.