Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu corff cenedlaethol newydd i ymateb i’r “diffyg hyder” yn y system addysg.

Roedd Mr Andrews yn annerch cynhadledd y Sefydliad Arweinyddiaeth dros Addysg Uwch yng Nghaerdydd ac awgrymodd y buasai ef ei hun yn fodlon cadeirio’r corff newydd.

“Roedd maniffesto’r llywodraeth yn ein ymrwymo i sefydlu corff strategaethol newydd dros gynllunio ac ariannu,” meddai. “Bydd gofyn i’r corff cenedlaethol yma fonitro ac ymyrryd yn rheolaeth sefydliadol cyrff sy’n ymwneud ag addysg a bod yn atebol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.”

Bydd y sector addysg yn wynebu nifer o newidiadau y flwyddyn nesaf. Mae Mr Andrews eisoes wedi cyhoeddi ei fwriad i adolygu y system arholi yng Nghymru yn dilyn honniadau o ‘dwyllo’ gan arholwyr y bwrdd arholi Cymreig CBAC.

Wrth annerch y gynhadledd, beirniadodd Mr Andrews hefyd y “meddylfryd bychan, plwyfol” oddi mewn i’r sector addysg uwch gan awgrymu y caiff prifysgol newydd ei chreu yn ne-ddwyrain Cymru cyn bo hir.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn gyndyn hyd yn hyn o uno efo Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd i greu prifysgol newydd o’r fath.

Dywedodd Mr Andrews bod yna achos da dros uno’r sefydliadau yma. “Mi greda’i ei bod yn bryd i ni egluro yn glir y manteision o greu sefydliad metropolitan yn ardal y de ddwyrain,” meddai, gan ychwanegu y buasai’r sefydliad yn hwb sylweddol i economi dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd yn ogystal a Morgannwg a chymoedd Gwent.