Eryri
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybydd o dywydd garw ar gyfer Cymru gyfan tan dydd Mawrth nesaf.

Yn ôl y proffwydi tywydd, bydd cawodydd gaeafol a rhew ar y ffyrdd a’r palmentydd ac mae’n debygol o fwrw eira yn drwm ar fynyddoedd Eryri. Bydd yn oer iawn yn arbennig felly yn Eryri a Bannau Brycheiniog.

Eisoes mae Gwasanaeth Tân ac Achub y canolbarth wedi cael eu galw i nifer o fân ddamweiniau ac mae rhew wedi cael effaith ar y gwasanaeth bysiau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe.

Cafodd dynes ei thorri’n rhydd ar ôl i’w char droi drosodd yn Creigiau ger Caerdydd ben bore yma (Sadwrn).

Mae’r traffig yn symud unwaith eto ar yr A55 yn Sir Ddinbych wedi i eira gau’r ffordd tua’r dwyrain yn ystod dydd Gwener, ond mae’r heddlu yn parhau i gynghori gyrrwyr i fod yn ofalus wrth deithio.