Mae’r Sêl swyddogol ar gyfer cymeradwyo deddfau newydd Cynulliad Cymru wedi cael ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd heddiw.

Mae’r Sêl arian yn dangos cynllun sydd yn cyfuno elfennau o Gymru ac elfennau o’r frenhiniaeth.

Bydd y Sêl yn cael ei roi ar ben bob Deddf sy’n cael ei llunio gan Lywodraeth Cymru, ers ennill grymoedd deddfu yn y refferendwm eleni, yn arwydd o’r Cydsyniad Brenhinol i ddeddfau sy’n cael eu pasio yn y Cynulliad.

Bu’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn cwrdd â’r Frenhines mewn cyfrafod o’r Cyfrin Gyngor ym Mhalas Buckingham ddoe, lle bu’r Frenhines yn cyflwyno’r sêl i’r Carwyn Jones ac yn rhoi ei chymeradwyaeth swyddogol iddo.

Roedd creu’r ‘Sêl Gymreig’ yn gam angenrheidiol wrth alluogi’r Cynulliad i ddeddfu, yn ôl amodau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 – ac felly’n angenrheidiol yn sgil y bleidlais ‘Ie’ dros bwerau deddfu i Gymru yn y refferendwm eleni.

Y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant gafodd y gwaith o gynllunio a chreu’r Sêl, gan greu arfbais unigryw i Gymru. Mae’r cynllun terfynol yn cyfuno elfenau sy’n cynrychioli Cymru a’r frenhiniaeth.

Yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, sydd â chyfrifoldeb dros gadw’r Sêl, mae ganddo “bwysigrwydd cyfansoddiadol a symbolaidd mawr.”

“Hwn fydd y ‘Sêl Cymreig’ cyntaf ers dyddiau Owain Glyndwr,” meddai, “ac mae’n dangos bod llywodraeth datganoledig Cymru wedi ‘dod i oed’.

“Bydd y ‘Sêl’ newydd yn tanlinellu sut ry’n ni’n defnyddio’r grymoedd deddfwriaethol er lles pobol Cymru.”