Mae’r heddlu’n apelio am dystion ar ôl i wraig 61 oed gael ei hanafu’n ddifrifol pan fu pump o geir  mewn gwrthdrawiad â’i gilydd yn Aberdâr ddydd Mercher.

Roedd car Ford Fiesta llwyd wedi bod mewn gwrthdrawiad â Honda Civic coch a bws Stagecoach ar ffordd osgoi yr A4059 wrth ymyl Asda am 4.15pm bnawn  ddoe. O ganlyniad, roedd y Ford Fiesta a’r bws wedi gwyro oddi ar y ffordd.

Wrth geisio osgoi’r cerbydau yma, roedd Ford Fiesta coch a Skoda Fabia glas hefyd wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Cafodd y wraig 61 oed o Hirwaun, oedd yn gyrru’r  Ford Fiesta llwyd, ei hanafu’n ddifrifol. Cafodd ei chludo i Ysbyty Tywysog Siarl ac mae hi’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Roedd dynes 24 oed oedd yn teithio yn y Ford Fiesta llwyd hefyd ei chludo i’r ysbyty lle mae hi mewn cyflwr sefydlog.

Roedd pump o bobl eraill wedi cael mân anafiadau. Roedd y ffordd ar gau am rai oriau wedi’r ddamwain.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad neu unrhyw un a welodd y cerbydau yn cael eu gyrru cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw. Y rhifau i’w ffonio yw Gwaelod y Garth – 02920 527226 neu 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.