Neil McEvoy
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi fod eu cwyn yn erbyn y cynghorydd Neil McEvoy wedi cael ei gynnal.

Cyhoeddodd cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, neithiwr fod panel y blaid wedi pleidleisio’n unfrydol i “gynnal y gwyn yn erbyn Neil McEvoy.”

Dywedodd Helen Mary Jones fod Neil McEvoy wedi derbyn “cwyn swyddogol yn ogystal â chyfarwyddiadau o ran ei ymddygiad yn y dyfodol.”

Fe gadarnhaodd Palid Cymru wrth Golwg 360 heddiw nad oedd y cynghorydd bellach wedi ei ddiarddel o’r blaid, ond eu bod wedi ei gynghori ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

Cafodd cwyn ei wneud yn erbyn y cynghorydd a dirprwy arweinydd cyngor Caerdydd, Neil McEvoy, wedi iddo gyhuddo mudiad Cymorth i Fenywod Cymru o gefnogi “camdrin plant gydag arian cyhoeddus.”

Yn ôl y cynghorydd, roedd y mudiad yn cefnogi menywod oedd yn torri gorchmynion llys i adael i dadau weld eu plant – cyhuddiad sy’n cael ei wadu’n llwyr gan y mudiad.

Neithiwr, fe ddywedodd Helen Mary Jones fod Plaid Cymru yn awyddus “i gymryd y cyfle i ategu ein cefnogaeth i Gymru Mwy Diogel, Cymorth i Fenywod Cymru, a phob sefydliad arall sy’n gweithio’n ddiflino i ddiogelu menywod, dynion a phlant rhag trais.”