Mae criwiau tân yn dal i ddelio â thân mawr ar safle gwaith dur Llanwern y bore ’ma, ar ôl i’r gwasanaeth tân gael eu galw yno toc wedi hanner nos neithiwr.

Mae’r criwiau wedi bod yn ceisio rheoli tân mewn warws mawr ar y safle, wedi iddyn nhw dderbyn galwad i Lanwern am 12.36am neithiwr, gan rywun oedd ar y safle ar y pryd.

Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân yn y warws 80 metr wrth 500 metr ar safle piclo dur Corus.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth tân, cafodd 26 o griwiau gwahanol eu galw allan i ddelio â’r “tân mawr” ar y safle.

Does dim sôn am unrhyw anafiadau hyd yn hyn, er bod y criwiau yn dal yno yn delio gyda’r tân.