Yn ystod y misoedd nesaf fe fydd 16,000 copi o CD aml-gyfrannog newydd, gyda rhai o artistiaid amlycaf y Gymru Gymraeg arno, yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim ar hyd a lled Cymru.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg sydd wedi ariannu’r cynllun gwerth £4,500. Mae’n brosiect ar y cyd rhwng y Bwrdd, y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Menter Iaith Môn.

Mae’r holl gerddorion wedi rhoi’r traciau am ddim, i geisio’i ddefnyddio fel “ffordd o farchnata,” meddai Dewi Snelson o Fenter Môn.

Bydd 4,000 yn cael eu rhoi fel anrheg Nadolig ar flaen cylchgrawn pop Y Selar ac yna yn y flwyddyn newydd fe fydd 12,000 yn cael eu rhannu trwy’r  Mentrau Iaith, yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc.

Mae’r cryno ddisg yn dwyn yr enw 12 – DEUDDEG. Mae’n cynnwys trac yr un gan ddeuddeg o grwpiau neu artistiaid Cymraeg gan gynnwys Plant Duw, Huw M, Sibrydion, Sen Segur, Creision Hud, Trwbador, mr huw, Jen Jeniro, Yr Ods, Colorama, Yr Angen a Dau Cefn.

“Y gobaith ydy y bydd y casgliad yma yn sbarduno diddordeb pobl ifanc yn y sîn ac efallai yn cyflwyno rhai pobl i gerddoriaeth Gymraeg. Rydym fel Menter Iaith yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid, yr artistiaid a labeli am fod yn barod iawn i fod yn rhan o’r prosiect ac yn arbennig i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am eu cefnogaeth ariannol,” meddai Menter Môn mewn datganiad.

‘Angen arolwg diwylliannol’

Wrth ymateb i’r lansiad fe ddywedodd Rhys Mwyn wrth Golwg360 na fyddai’r CDs yn “gwneud dim drwg”. Ond mae’n cwestiynu ai dyma’r ffordd orau o wario’r arian.

“Mae’r gerddoriaeth am gyrraedd rhai pobl. Ond, mae’r byd wedi symud yn ei flaen yn anhygoel yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae oes y CD wedi dod i ben. Dydi o ddim yn gyfrwng perthnasol i bobl ifanc erbyn hyn,” meddai Rhys Mwyn.

“Rydan ni angen arolwg diwylliannol o bobl ifanc i weld beth yw eu harferion cyfryngol nhw. Y tebygrwydd ydi fod rhan fwyaf o bobl yn eu harddegau fasa’n gwrando ar fandiau fel hyn yn treulio mwy o amser ar Facebook na dim byd arall.

“Un canlyniad o’r chwyldro – yn arbennig mewn ysgolion a gyda phlant y chweched – ydi eu bod nhw’n gwybod sut i rannu cerddoriaeth am ddim. Does yna ddim prynu cerddoriaeth, ar y cyfan, rŵan.

“Allan o ddosbarth o 25, un neu ddwy law sy’n mynd i fyny yn cyfaddef prynu CD. Mae tua tri neu bedwar enw’n llwytho o I tunes a’r gweddill yn eistedd yno’n edrych yn euog, yn rhannu am ddim.”

Dywedodd mai’r “hen ffordd o hyrwyddo” yw rhoi CDs am ddim ac nad yw’n beth “newydd nac yn gyffrous.”

“Mae’r byd wedi symud yn ei flaen a dyma ni yn fan hyn yn taflu CDs at bobl. Y peryg ydi na fydd y rhan fwyaf ohonyn nhw eisiau’r CDS. Dyma le mae angen i ni gyd ddeall yn well lle mae pobl ifanc Cymru heddiw.”

Ond mae Dewi Snelson yn hapus bod cynnig CDs am ddim yn ffordd dda o hyrwyddo’r Sîn Roc a’r iaith Gymraeg.

“Mae technoleg ac arferion bobl ifanc o ran prynu cerddoriaeth wedi newid,” meddai.

“Ond er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg i bobl sydd efallai ddim fel arfer yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg mae angen ffyrdd o farchnata tu hwnt i lawrlwytho. Trwy allu mynd at unigolyn a rhoi CD yn eu llaw nhw dwi’n gwybod bod y person yna wedi derbyn y gerddoriaeth.  Y gobaith wedyn ydi y byddan nhw’n mynd i chwilio am y bandiau yma ar y We, ac yna yn lawrlwytho mwy o’r gerddoriaeth.  Mae rhywun hefyd yn gallu targedu carfan benodol o bobl trwy siarad gyda nhw a rhoi’r CD yn eu llaw. Tydi siarad efo rhywun a rhoi linc i wefan er mwyn lawrlwytho ddim yn cael yr un impact.

“Ai dyma’r ffordd orau o wario’r arian? Gyda’r arian oedd ar gael dyma oedd yr unig ffordd o sicrhau fod y gerddoriaeth ar gael yn rhad ac am ddim.  A does dim byd yn stopio’r bobl ifanc rhag rhoi’r caneuon ar eu chwaraewyr MP3.”