Guto Bebb
Mae’n warthus bod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i beidio tynnu diwrnod o gyflog y rhai fu ar streic tan ar ôl y Nadolig.

Dyna ddywed yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb sydd wedi siarad o blaid newid pensiynau gweithwyr y sector cyhoeddus.

Ni fydd Cyngor Gwynedd yn tynnu’r arian o gyflogau streicwyr tan fis Chwefror – ffaith sydd wedi gwylltio Guto Bebb.

“Mae’r sector cyhoeddus yn rhedeg  polisi ‘strike now, pay later’,” meddai.

“Yn hytrach na’u bod nhw’n colli’r diwrnod o gyflog ym mis Rhagfyr, neu fis Ionawr pan fydd ganddyn nhw filiau cardiau credyd, mae’r undebau yn gofyn i’r awdurdodau lleol a’r cyrff cyhoeddus ohirio’r deduction tan fis Chwefror.”

Mae’n poeni am effaith gohirio cymryd yr arian, ac yn credu ei fod yn enghraifft bellach o’r hyn mae’n ei weld fel ffafriaeth i weithwyr y sector cyhoeddus ar draul gweithwyr y sector preifat.

“Be’ ydy o yn y bôn ydy ein bod ni mewn ffordd yn rhoi cushion i weithwyr sector cyhoeddus fynd ar streic.

“Pwy sy’n mynd i ddigolledu’r gweithiwr Asda neu’r gweithiwr Morrisons sy’ wedi gorfod cymryd diwrnod i ffwrdd er mwyn edrych ar ôl eu plant? Pwy sy’n mynd i’w digolledu nhw?

“Mae o’n warthus o beth bod arian trethdalwyr yng Ngwynedd yn cael ei ddefnyddio i leddfu staff Cyngor Gwynedd oedd ar streic, a sicrhau  bod nhw ddim yn colli unrhyw arian tan fis Chwefror.”

Cais yr undebau

Ond yn ôl Unsain mae undebau wastad yn trafod pryd yw’r adeg orau i gymryd arian am ddiwrnod streicio o gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus.

“Oherwydd mai dyma’r paced pae olaf cyn ‘Dolig, mae’n naturiol bod Undebau Llafur yn gofyn am dynnu’r arian ar ôl y Nadolig,” meddai Dominic MacAskill, Prif Swyddog Ymgyrch Pensiynau Unsain.

Ond nid yw pob corff cyhoeddus wedi cytuno i gais yr undebau.

“Mi wnaethon ni dderbyn cais gan Unsain i ohirio tynnu’r cyflog streicio allan tan fis Chwefror,” meddai llefarydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gogledd.

“Ond am resymau llwydraethiant fe fyddai hynny’n amhriodol ac fe fyddwn ni’n tynnu’r cyflog allan ym mis Rhagfyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:  “Bydd y Cyngor yn gwneud datganiad i’w staff yn fuan i’w hysbysu am y trefniadau i dynnu cyflog yn sgil streic 30 Tachwedd. Ni fyddai felly yn briodol i wneud sylw pellach nes y bydd staff wedi cael gwybod am y trefniadau hyn.”

‘Bod yn hyblyg’

Dywedodd Arweinydd Cyllid Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sian Gwenllian: “Rwy’n falch fod modd i Gyngor Gwynedd ohirio tocio cyflogau’r rhai aeth ar streic ddydd Mercher diwethaf tan ar ôl y Nadolig.

“Mae’n bwysig bod yn hyblyg mewn cyfnod sydd mor heriol yn ariannol.

Does dim codiad cyflog wedi bod ers dwy flynedd (yn sgil polisiau cenedlaethol) ac mae llawer o’n gweithwyr sy’n cynnig gwasanaethau pwysig ar y rheng flaen yn teimlo’r esgid yn gwasgu erbyn hyn.

“Fydd gohirio’r tocio yn rhoi mymryn mwy o arian yn eu pocedi dros y Nadolig sy’n adeg drud i deuluoedd a rhaid cofio mai gohirio’r tocio ydan ni, ac nid gwneud i ffwrdd ag o yn gyfan gwbl.

“Mi fydd y gweithwyr yn dal i golli diwrnod o dâl os fuon nhw ar streic felly does dim cyfiawnhad i’r ddadl y bydd y trethdalwyr rhywsut ar eu colled.

“Yn bersonol, rwyf yn cefnogi hawl gweithwyr i fynd ar streic pan bo nhw’n teimlo dan fygythiad ac rwyf yn bryderus iawn am y ffordd mae’r sector cyhoeddus yn cael ei datgymalu gan y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llundain. Roeddwn yn Rali’r Undebau ym Mangor ddydd Mercher diwethaf i ddangos cefnogaeth.”