Llysoedd Merthyr
Mae dyn o Landrindod wedi’i garcharu am saith mlynedd ar ôl treisio merch ifanc ym Mhowys dros y flwyddyn newydd.

Roedd Richard Anthony Waines, 29 o Landrindod, wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o dreisio. Fe fydd ar drwydded am dair blynedd arall ar ôl gorffen ei gyfnod yn y carchar.

Roedd wedi ymosod ar y ferch 16 oed nos Galan wrth iddi hi fynd yn ôl adre’ wedi noson allan.

Bydd Waines hefyd yn gorfod cofrestru am oes ar y gofrestr troseddwyr rhyw – fe ddywedodd y barnwr, Eleri Rees, ei fod yn euog o ymosodiad “dychrynllyd”.

Llun: Llysoedd Merthyr (Gwasanaeth y Llysoedd