Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg wedi cwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ôl i Adran Addysg San Steffan anfon llythyr uniaith Saesneg at athrawon.

Roedd Gweinidog Ysgolion Lloegr, Nick Gibb, wedi ysgrifennu at athrawon yn eu hannog i beidio â mynd ar streic ddydd Mercher.

Mae’n debyg fod Leighton Andrews yn anhapus na gafodd wybod am y llythyr o flaen llaw, ac nad oedd y llythyr wedi ei anfon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Yn ôl papur newydd y Wales on Sunday mae wedi gwneud cwyn swyddogol i Fwrdd yr Iaith am Nick Gibb, gan ddweud ei fod wedi mynd yn groes i’r Ddeddf Iaith.

Serch hynny mae Adran Addysg Llywodraeth San Steffan yn honni eu bod nhw wedi gofyn am gymorth i gyfieithu’r llythyr, ond fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod.

“Mae’r gweinidog wedi gofyn i Fwrdd yr Iaith ymchwilio i’r mater,” meddai llefarydd ar ran Leighton Andrews. “Mae’n annerbyniol fod llythyr o’r fath wedi ei anfon allan yn Saesneg yn unig.

“Mae Cymru yn wlad ddwyieithog ac mae’n rhaid parchu hynny,” meddai wrth y Wales on Sunday.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg Llywodraeth San Steffan y bydd y llythyr yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg o fewn y dyddiau nesaf.